Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2017
Amser:
08.30 -
08.44
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Roedd Julie James unwaith eto yn dirprwyo ar ran Jane Hutt, oherwydd ni wnaed dim newidiadau o ran aelodaeth yr wythnos diwethaf. Byddai cynnig yn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach heddiw bod Julie James yn cymryd lle Jane Hutt fel Aelod o’r Pwyllgor Busnes, a byddai hyn ar agenda’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai’r Cyfarfod Llawn heddiw yn dechrau gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC. Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai hi’n dechrau’r sesiwn ac yna’n cyhoeddi munud o dawelwch, a gaiff ei ddechrau a’i ddiweddu gan y gloch; bydd llun o Carl yn cael ei arddangos ar y sgriniau drwy gydol y sesiwn. Dywedodd y Llywydd y byddai’n galw Arweinwyr y Pleidiau, ac yna’r Aelodau a oedd â’r cysylltiad agosaf â Carl, ac eraill wedyn os bydd amser yn caniatáu. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y Cyfarfod Llawn am hyd at 30 munud ar ôl yr eitem hon, ond y byddai’n ceisio parhau am 2pm, hyd yn oes os bydd y teyrngedau’n parhau am amser hwy. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai aelodau o deulu Carl yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus i glywed y teyrngedau.
·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai hi’n gwahodd enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn. Pe bai cystadleuaeth, byddai’r bleidlais yn digwydd fel pleidlais gyfrinachol rhwng 2.00 a 4.00 a byddai’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi cyn y Cyfnod Pleidleisio.
· Bydd cynnig bod Julie James yn cymryd lle Jane Hutt fel Aelod o’r Pwyllgor Busnes yn cael ei ychwanegu at yr agenda dydd Mercher.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2017 -
·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud) – gohiriwyd tan 29
Tachwedd
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60
munud) - gohiriwyd tan 29 Tachwedd
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Y Seilwaith Digidol yng Nghymru (60 munud)– symudwyd o 15 Tachwedd
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)- symudwyd o 15 Tachwedd
· Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) – (30 munud)- symudwyd o 15 Tachwedd
Dydd Mercher 29 Tachwedd 2017 -
·
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30
munud) – gohiriwyd tan 6
Rhagfyr
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) - symudwyd o 22 Tachwedd
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud)
Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2017 –
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) – symudwyd o 29 Tachwedd
· Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth ar gyfer Pobl Anabl (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 gan y pwyllgorau, o 28 Tachwedd i 1 Rhagfyr. Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai’r ddadl yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr, er mwyn caniatáu amser i gyflwyno Cynnig y Gyllideb Flynyddol cyn y Nadolig. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y gallai pwyllgorau gyfarfod y tu allan i’w hamserau penodedig os bydd angen, er mwyn hwyluso’r gwaith o graffu ar y gyllideb o fewn y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad.